Theatr Colwyn

42nd Street - The Musical

Amser rhedeg: 142 mins

Cyfarwyddwr: Mark Bramble

Genre: Sioe Gerdd , Dawns

Cast: Bonnie Langford, Tom Lister, Clare Halse, Philip Bertoli, Jasna Ivir, Christopher Howell, Matthew Goodgame, Graeme Henderson, Bruce Montague

AR WERTH - Gwe 6 Medi,10am

Wedi’i ffilmio’n fyw o'r Theatre Royal, Drury Lane, Llundain

42nd Street, the legendary Broadway musical theatre classic, is a ‘glorious’ (★★★★★ Express) and ‘utterly moreish extravaganza of glitz’ (★★★★★ Times).

Gan adrodd hanes Peggy Swyer, perfformiwr ifanc, talentog, gyda sêr yn ei llygaid sy’n cael ei chyfle mawr ar Broadway, dyma lwyfaniad mwyaf erioed y sioe gerdd enwog, sydd wedi ennill Gwobr Tony, ac fe'i ffilmiwyd yn fyw yn y Theatre Royal fawreddog, ar Drury Lane, yng nghalon y West End yn Llundain.

Yn ffres oddi ar fws o gefn gwlad America, wyneb arall yn unig yw Peggy yng nghanol corws mwyaf newydd Broadway. Ond, pan mae’r brif actores yn cael ei hanafu, efallai mai dyma gyfle Peggy i fwynhau’r enwogrwydd y mae hi wedi bod yn breuddwydio amdano…

Wedi’i chyfarwyddo gan awdur y sioe, Mark Bramble, mae'r ‘achingly beautiful revival of American Classic’ (★★★★★ Telegraph) yn serennu'r trysor cenedlaethol Bonnie Langford fel Dorothy Brock, Tom Lister fel Julian Marsh, Clare Halse fel Peggy Sawyer a Philip Bertioli fel Billy Lawlor, sy’n perfformio ar y cyd gyda dawnswyr tap anhygoel a chast ensemble gwefreiddiol.

Gan gynnwys y caneuon eiconig 42nd Street, We’re In The Money, Lullaby of Broadway, Shuffle Off To Buffalo, Dames ac I Only Have Eyes for You, dyma hud y sioe gerdd ar y sgrin fawr – nid yw adloniant yn mynd yn fwy na hyn!

Prisiau Tocynnau

£12.50

Consesiwns - £11.50

Cyfeillion / Cerdyn Premier - £10.50

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Sul
10 Tach 2019

2pm

Dydd Mawrth
12 Tach 2019

7pm