Theatr Colwyn

A Spanish Hour (L’heure espagnole)

Cyfarwyddwr: Richard Studer

Genre: Cerddoriaeth


Perfformiwyd L’heure espagnole am y tro cyntaf ym Mharis yn 1911 ac mae’r opera wedi ei gosod mewn siop glociau yn Toledo, canol Sbaen. Dilynir ffawd Torquemada, y clociwr gweithgar wrth i’w wraig, Concepción, yn ystod un prynhawn poeth, weithio ei ffordd drwy ei chasgliad o gariadon ynfyd. Mae cerddoriaeth Ravel yn llawn alawon bachog, dawnsfeydd habanera bywiog ac elfennau eraill o ganeuon gwerin Sbaeneg a fydd yn cyffroi cynulleidfaoedd.

Mae hon yn opera i bawb - yn llawn cast rhagorol o bum canwr ifanc yn ogystal â phedwar cerddor gwych, yn perfformio cyfieithiad Saesneg newydd gan ein Cyfarwyddwr Artistig Richard Studer a threfniant newydd o sgôr egsotig Ravel a grëwyd gan ein Cyfarwyddwr Cerdd, Jonathan Lyness.

Prisiau Tocynnau

Pris Llawn 13

Consesiwn 12

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Mercher
05 Rhag 2018

7.30pm