Theatr Colwyn

A Star is Born 15

Amser rhedeg: 135 mins

Cyfarwyddwr: Bradley Cooper

Genre: Drama

Cast: Bradley Cooper, Lady Gaga, Sam Elliott, Andrew Dice Clay, Dave Chappelle, Rafi Gavron, Anthony Ramos, Bonnie Somerville

Yn y ffilm wefreiddiol hon mae Bradley Cooper a Lady Gaga yn cyfuno eu talentau hynod i adrodd hanes angerddol ac emosiynol Jack ac Ally, dau unigolyn artistig sy’n dod ynghyd ar y llwyfan ac mewn bywyd.

Cyfarwyddir y ffilm, sy’n cynnig golwg newydd ar y stori gariad draddodiadol, gan yr actor Bradley Cooper, sydd erbyn hyn wedi derbyn pedwar enwebiad am Oscar (“American Sniper,” “American Hustle,” “Silver Linings Playbook”), a bydd yn mentro i sedd y cyfarwyddwr am y tro cyntaf. Mae’r ffilm hefyd yn serennu’r gantores hynod dalentog, Lady Gaga, yn ei rôl arweiniol gyntaf mewn ffilm fawr, sydd hefyd wedi ennill sawl gwobr ac wedi’i henwebu am Oscar.

Mae Cooper yn portreadu’r canwr Jackson Maine, sy’n canfod Ally, artist sydd heb gael llawer o lwyddiant, ac yn disgyn dros ei ben a’i glustiau mewn cariad â hi. Mae Ally wedi rhoi’r gorau i freuddwydio am fywyd fel cantores lwyddiannus, nes iddi gwrdd â Jack, sy’n gweld ei thalent naturiol ar unwaith.

Prisiau Tocynnau

Pris llawn £5.50

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Mawrth
08 Ion 2019

7.30pm