Theatr Colwyn

ARRIVAL® - The Hits Of ABBA

Genre: Cerddoriaeth

Dyma’r sioe y mae pawb sy'n hoffi ABBA wedi bod yn disgwyl yn eiddgar amdani!

Dros bedwar degawd ar ôl i’r band pop chwedlonol o Sweden ddod i enwogrwydd, mae eu cerddoriaeth yn dal i fod mor boblogaidd ag erioed. Mae hud y cyfnod arbennig hwn yn dod i lwyfannau ledled y wlad diolch i ARRIVAL® - y sioe ABBA ryngwladol orau sydd wedi ennill sawl gwobr ac wedi gwerthu allan mewn dros 30 o wahanol wledydd ledled y byd.

Mae wedi’i henwebu fel y 'Sioe ABBA Orau’ yn ogystal â’r ‘Sioe ABBA Fwyaf Dilys’ am 6 mlynedd yn olynol!

Sioe egnïol arbennig sy’n cynnwys ystod eang o’r caneuon mwyaf poblogaidd i gynulleidfaoedd o bob oed – gan gynnwys ‘Mamma Mia’, ‘Waterloo’, ‘Dancing Queen’, ‘The Winner Takes It All’, ‘Thank You For The Music, a llawer mwy. Daw’r sioe â thalentau cyfansoddi eithriadol Benny a Bjorn yn fyw.

Dyma ecstr-abba-gansa 2 awr llawn gyda fformiwla lwyddiannus o harmonïau gwreiddiol ABBA, gwisgoedd nodweddiadol, lleisiau arbennig, band byw medrus a thaflunydd fideo rhyngweithiol drwy gydol y sioe, yn ail -greu teimlad a chyffro gwirioneddol sioe fyw ABBA.

Felly dewch i ddathlu 'The Hits Of ABBA' â ni Dyma sioe na ddylech chi ei cholli!

www.abba-arrival.co.uk | Facebook: @arrivaluk

Prisiau Tocynnau

£23.20

Consesiwn - £22.20

Cyfeillion / Cerdyn Premier - £20

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Mercher
04 Rhag 2019

7.30pm