Theatr Colwyn

Burning 15

Amser rhedeg: 148 mins

Cyfarwyddwr: Lee Chang-dong

Genre: Drama , Antur

Cast: Jong-seo Jeon, Steven Yeun, Ah-In Yoo

Noson Ffilm Rialto

Yn seiliedig ar stori fer gan Haruki Murakami, mae’r ffilm hwn o Dde Corea yn adrodd hanes Jong-soo, gweithiwr rhan amser sy’n cyfarfod cyn gymydog, Hae-mi.

Mae hi’n gofyn iddo ofalu am ei chath tra mae hi ar drip yn Kenya, ond pan mae hi’n dychwelyd, mae Hae-mi yn cyflwyno Ben (STEVEN YEUN – The Walking Dead) i Jong-soo.

Un diwrnod, mae Ben yn ymweld â Jong-soo gyda Hae-mi, ac yn cyfaddef bod ganddo hobi cudd.

“Mae’r synnwyr o syndod a’r natur anochel yn nodwedd o waith ysgrifennu meistrolgar (gan Lee a’r cyd-ysgrifennwr Oh Jung-mi, a chyfarwyddyd medrus, sy’n gwneud i chi deimlo’n rhan o’r stori mewn cymysgedd o giledrychiadau, cyfrinachau a chelwyddau, triciau a chreulondebau a phelydrau o olau haul." BFI / Golwg a Chlyw

Prisiau Tocynnau

£6.50

Ffrindiau / Cerdyn Premier £5.50

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Mawrth
19 Mawrth 2019

7.30pm