Theatr Colwyn

Elf the Musical

Amser rhedeg: 140 mins

Genre: Sioe Gerdd , Plant / Teulu

Gan ddychwelyd i theatr byw ar ôl y cyfnod clo, mae Llandudno Musical Productions yn falch o gyflwyno’r ffefryn Nadoligaidd, sef ‘Elf the Musical’!

Yn seiliedig ar y ffilm o 2003, mae’r stori yn adrodd hanes Buddy, sydd wedi cael ei fagu gan gorachod ym Mhegwn y Gogledd, ar siwrnai gyffrous i ddarganfod pwy ydi o go iawn. Mae’r daith yn mynd ag o i ddinas Efrog Newydd i ddarganfod ei dad go iawn, gweithiwr diarbed sydd ddim callach bod Buddy yn bodoli.

Ymunwch â Buddy wrth iddo grwydro’r ddinas enfawr a lledaenu llawenydd y Nadolig trwy ganu’n swnllyd i bawb ei glywed ac ychwanegu ychydig o ‘Sparklejollytwinklejingle’ i’r ddinas!

Dyma sioe berffaith i deuluoedd sy’n dechrau ymbaratoi ar gyfer cyfnod y Nadolig, ac mae’n cefnogi theatr byw sydd wedi dychwelyd. Dyma sioe na ddylech chi ei cholli

Prisiau Tocynnau

Oedolion - £18.20

Plentyn (dan 16 oed) - £13.70

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Iau
04 Tach 2021

7.15pm

Dydd Gwener
05 Tach 2021

7.15pm

Dydd Sadwrn
06 Tach 2021

2pm 7.15pm