Theatr Colwyn

Ensemble Cymru - Schubert

“Mae Beethoven yn cyfansoddi fel pensaer. Mae Schubert yn cyfansoddi fel petai’n cerdded yn ei gwsg.” Alfred Brendel

Mae Ensemble Cymru yn cynnig cyfle prin i brofi perfformiad byw o Wythawd Schubert ar gyfer offerynnau chwyth a llinynnau.

Yn cynnwys 6 symudiad nodedig, mae’n arddangos gwaith cyfansoddwr sydd â dawn unigryw i'n swyno gydag alawon a harmonïau hudolus. I gyd-fynd â'r gwaith hwn, comisiynodd Ensemble Cymru deyrnged i Schubert gan y cyfansoddwr Cymreig, John Metcalf. Gyda’i harddwch breuddwydiol, ac wedi ei ysbrydoli gan yr alaw werin hardd Gymreig, Bugeilio’r Gwenith Gwyn, mae Metcalf yn creu teyrnged gyfoes addas i ddisgleirdeb telynegol Schubert.

  • Wythawd – Franz Schubert
  • Wythawd (2018) – John Metcalf


All the players distinguished themselves in the characterful nature of their delivery
- Seen and Heard (2018)

Prisiau Tocynnau

£15.20

Consesiwn - £14.20

Cyfeillion / Cerdyn Premier - £12

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Mercher
06 Tach 2019

7.30pm