Theatr Colwyn

Fiddler on the Roof

Genre: Sioe Gerdd

Mae PMA Theatre yn cyflwyno Fiddler On The Roof, cynnyrch meddwl y sêr Broadway Jerry Bock, Sheldon Harnick a Joseph Stein sydd wedi bod yn diddanu cynulleidfaoedd ar draws y byd ers 1964.

Wedi’i lleoli ym mhentref Anatevka, mae’r stori yn canolbwyntio ar Tevye, dyn llefrith tlawd, a’i bum merch. Gyda chymorth y gymuned Iddewig glos a lliwgar, mae Tevye yn ceisio gwarchod ei ferched a’u magu gyda gwerthoedd traddodiadol yn wyneb moesau cymdeithasol sy’n newid a gwrth-semitiaeth Rwsia tsaraidd.

Yn llawn manylion hanesyddol ac ethnig, mae thema gyffredinol Fiddler On The Roof o draddodiad yn torri rhwystrau hil, dosbarth, cenedligrwydd a chrefydd, gan adael y gynulleidfa yn gollwng dagrau o lawenydd a thristwch.

Yn seiliedig ar storïau Sholem Aleichem a thrwy ganiatâd arbennig Arnold Perl.
Llyfr gan Joseph Stein
Cerddoriaeth gan Jerry Bock
Geiriau gan Sheldon Harnick

Mae’r cynhyrchiad amatur hwn wedi’i gyflwyno drwy drefniant gyda’r Music Theatre International (Ewrop). Mae’r holl ddeunyddiau perfformio awdurdodedig hefyd wedi’u cyflenwi gan y MTI (www.mtishows.co.uk).

Prisiau Tocynnau

£11

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Gwener
15 Mawrth 2019

7pm

Dydd Sadwrn
16 Mawrth 2019

2pm 7pm