Theatr Colwyn

Grease - Dementia Friendly Screening Sing-along PG

Amser rhedeg: 105 mins

Cyfarwyddwr: Randal Kleiser

Genre: Sioe Gerdd

Cast: John Travolta, Olivia Newton-John, Stockard Channing

Sgriniad Addas i Bobl â Dementia

Ymunwch â’r Pink Ladies a’r T-Birds, a chyfarfod Sandy, Danny, Rizzo a Kenickie ar gyfer y sioe gerdd roc a rôl Americanaidd hwn.

Dilynwch y geiriau ar y sgrin yn ystod y caneuon a chyd-ganwch y caneuon poblogaidd 'Sandy', 'Beauty School Drop-out’ ac ‘You’re The One That I Want’.

Gofalwyr yn Cael mynd am DDIM

Mae’r dangosiadau sy’n gyfeillgar i ddementia yn cael eu cynhyrchu mewn partneriaeth gyda phrosiect ‘A Life More Ordinary’ yn The Dukes Theatre, Caerhirfryn ac Opera Cenedlaethol Cymru.

Mae hwn yn ddangosiad ar gyfer pobl gyda dementia neu sy’n colli eu cof ac i’w teuluoedd, ffrindiau a gofalwyr, ond mae’n agored i’r cyhoedd hefyd. Sylwch nad yw gofal bugeiliol yn cael ei ddarparu yn y digwyddiadau hyn. Mae’n rhaid i ffrind, aelod o’r teulu neu ofalwr fynychu hefyd.

Mae awyrgylch hamddenol yn y dangosiadau fel bod croeso i bobl symud o gwmpas a mynd a dod fel y mynnant. Bydd egwyl ac adloniant byw. Mae pob perfformiad yn cynnwys egwyl gydag adloniant byw, a ddarperir gan ac mewn partneriaeth gydag Opera Cenedlaethol Cymru gyda chefnogaeth gan Canu Conwy, côr staff Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

*Cysylltwch â ni ymlaen llaw os ydych chi mewn cadair olwyn ac eisiau mynychu, mae llefydd gwag i ddefnyddwyr cadair olwyn yn gyfyngedig.


Prisiau Tocynnau

£4.50

Companion - Free

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Iau
17 Hyd 2019

2pm