Theatr Colwyn

Here I Go Again - White Snake's Bernie Marsden

Genre: Cerddoriaeth, Sgwrs

Yr arwr gitâr Bernie Marsden ydi un o sêr roc enwocaf y byd. Ymunwch ag o ar gyfer noson o sgwrsio a cherddoriaeth.

Y gitarydd roc a’r blws sydd wedi cyd-ysgrifennu rhai o ganeuon enwocaf Whitesnake, gan gynnwys Fool For Your Loving a Here I Go Again sydd wedi gwerthu dros filiwn o gopïau. Bu iddo hefyd chwarae ar bum albwm cyntaf y band. Mae Bernie yn un da am ddweud stori, fel y gwelir yn ei hunangofiant: Where’s My Guitar. Mae ganddo lawer i’w ddweud am ei hanes yn gwrthod Paul McCartney ac yn cwrdd â Ringo Starr, Elton John, Cozy Powell, BB King a Jon Lord. Bydd Bernie yn canu, yn ateb cwestiynau ac yn siarad am y ffordd y bu iddo siapio oes aur roc a rôl.

Bydd pob sioe yn cynnwys sesiwn cwrdd a chyfarch a chyfle iddo lofnodi llyfrau.

Prisiau Tocynnau

£22.50

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Sadwrn
10 Hyd 2020

7.30pm