Theatr Colwyn

Il tabarro

Genre: Opera

Cyflwyna Opera Canolbarth Cymru orchestwaith hwyr Puccini, Il tabarro neu ‘The Cloak’. Stori fer yw’r opera un act hon, wedi’i gosodd ar lannau’r Seine, am berchennog cwch camlas o’r enw Michele, sy’n amau bod ei wraig, Giorgetta, yn bod yn anffyddlon. Mae’r opera’n llawn is-blotiau ac is-gymeriadau, a chyfeiriadau at olygfeydd a synau Paris yn y 1900au. Daw’r opera i ddiweddglo dramatig pan ddalia Michele gariad ei wraig yn annisgwyl ar daniad matsien. Gyda melodïau cyfareddol a thyndra cyffrous, mae Il tabarro yn dangos gwaith y cyfansoddwr gwych pan oedd ei allu ar ei anterth.

Mae cynhyrchiad newydd OCC yn cynnwys 6 canwr a 4 cerddor, gyda chyfieithiad newydd i’r Saesneg gan Richard Studer a threfniant siambr newydd gan Jonathan Lyness. Yn yr ail hanner, ar ôl yr opera, byddwn yn parhau â thema Paris gyda chymysgedd o eitemau cerddorol difyr gan ein holl gantorion a’n cerddorion dawnus.

Prisiau Tocynnau

£16.50

Consesiwn - £15.50

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Mercher
06 Hyd 2021

7.30pm