Theatr Colwyn

Leopoldstadt 12A

Amser rhedeg: 140 mins

Cyfarwyddwr: Patrick Marber

Genre: Drama

Mae drama newydd Tom Stoppard, Leopoldstadt, sydd wedi ennill sawl gwobr, yn ddrama angerddol am gariad, teulu a gwytnwch.

Ar ddechrau’r 20fed ganrif, Leopoldstadt oedd hen ardal Iddewig boblog Fienna, Awstria. Ond, mae Hermann Merz, perchennog ffatri wedi ei fedyddio’n Iddew, sydd bellach yn briod â Gretl sy’n Gatholig, wedi dod yn ei flaen yn y byd.

Dilynwn hanes ei deulu dros gyfnod o hanner can mlynedd – drwy gyfnod dirdynnol y rhyfel, gwrthryfel, tlodi, cyfeddiannaeth gan yr Almaen Natsïaidd, a’r Holocost. Mae cwmni o 40 actor yn cynrychioli pob cenhedlaeth o’r teulu yn y ddrama epig, ond bersonol, hon.

Wedi ei ffilmio yn fyw ar lwyfan yn y West End Llundain, ‘mae campwaith Tom Stoppard yn wych’ (Independent), ac ni ddylid ei golli.

Prisiau Tocynnau

£14

Consesiwn - £13

Friends / Cerdyn Premier - £12

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Iau
27 Ion 2022

7pm