Theatr Colwyn

Matthew Bourne's Swan Lake

Amser rhedeg: 130 mins

Genre: Dawns

Cast: Will Bozier, Liam Mower, Nicole Kabera

Daw Swan Lake gan y coreograffydd Matthew Bourne i sinemâu gyda gwedd newydd ar gyfer cynulleidfa’r 21ain ganrif ac mae’r cynhyrchiad yn sicr ‘mor eofn a phrydferth ag erioed’ (★★★★★ Telegraph). Mae’r cynhyrchiad cyffrous, mentrus a ffraeth hwn yn dal i fod yn fwyaf enwog efallai am ailosod y corps-de-ballet benywaidd gydag ensemble gwrywaidd bygythiol, am chwalu confensiwn, ac am droi traddodiad ar ei ben a syfrdanu’r byd dawns. Gan gadw’r elfennau eiconig o’r cynhyrchiad gwreiddiol sy’n annwyl i filoedd o bobl o amgylch y byd, mae Mathew Bourne a’r dylunwyr arobryn Lez Brotherston (Y Set a’r Gwisgoedd) a Paule Constable (Goleuadau) wedi llwyddo i greu ail –ddehongliad ‘hudolus' (★★★★★ Independent) o’r cynhyrchiad clasurol hwn gan New Adventures. Wedi’i ffilmio yn Theatr Sadler’s Wells Llundain, bydd Swan Lake gan y coreograffydd Matthew Bourne yn cynnwys Will Bozier fel Yr Alarch / Y Dieithryn, Liam Mower fydd yn chwarae rhan Y Brenin a bydd Nicole Kabera yn chwarae rhan y Frenhines.

Gan ennill dros dri deg o wobrau rhyngwladol yn cynnwys un wobr Olivier a thair gwobr Tony ar Broadway, mae dehongliad pwerus Matthew Bourne o glasur Tchaikovsky yn ‘wreiddiol o hyd ac ni ellir ei golli’ (★★★★★ Metro), yn gynhyrchiad angerddol a modern ar gyfer ein hoes ni.

Ffilmiwyd yn Theatr Sadler’s Wells, Llundain yn 2019

Archebwch nawr - 2pm

Archebwch nawr - 7pm

Prisiau Tocynnau

Adult - £12.50

Concession - £11.50

Friends / Premier Card - £10.50

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Sadwrn
08 Meh 2019

2pm 7pm