Theatr Colwyn

Michael Ball & Alfie Boe: Back Together

Genre: Sioe Gerdd , Cerddoriaeth

Dangosiad Encore

Mae deuawd gerddorol enwocaf y byd, Michael Ball ac Alfie Boe, yn nôl efo’i gilydd ac yn barod i ddiddanu cynulleidfaoedd sinema ar hyd a lled y wlad wrth iddyn nhw droedio llwyfan yr O2 Arena ar gyfer sioe olaf eu taith ar draws y DU.

Ar ôl dychwelyd i berfformio yn y West End gyda chyngerdd lwyddiannus Les Misérables, bydd Ball a Boe yn aduno ar daith i hyrwyddo eu trydydd albwm, ‘Back Together’, ac maen nhw eisoes wedi cyrraedd brig y siartiau senglau gyda ‘Together’ a ‘Together Again’.

Bydd y ddeuawd o fri yn perfformio eu hoff ganeuon o’r byd pop, roc a sioeau cerdd, gan gynnwys caneuon o The Lion King, Greatest Showman a The Phantom of the Opera yn ogystal â chadwyn wych o alawon Queen. Gyda’u lleisiau rhyfeddol a’u brawdgarwch ar y llwyfan, bydd swyn hudolus Ball a Boe yn siŵr oleuo’r sgrin fawr.

Prisiau Tocynnau

£13

Consesiwn - £12

Cyfeillion / Cerdyn Premier - £11

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Sul
13 Medi 2020

2.30pm

Dydd Llun
14 Medi 2020

7.30pm