Theatr Colwyn

Loserville

Genre: Sioe Gerdd

Ar ôl llenwi’r lle gyda’u perfformiadau o Matilda Jr, mae disgyblion dawnus Coleg Dewi Sant yn ôl gyda’u cynhyrchiad egnïol o Loserville.

1971 yw hi. Mae’r gîc cyfrifiaduron amhoblogaidd Michael Dork a’i ffrindiau ar fin newid y byd. Ond ’does neb yn gwybod hynny eto. Mae Michael hefyd wedi darganfod merch, Holly, sy’n syniad (bron) mor gyffrous â’i gariad at godio cyfrifiadurol. Petai ond â’r hyder i fynd i siarad gyda hi! Efallai nad yw pethau wedi newid cymaint â hynny wedi’r cyfan!

Fyddech chi byth wedi disgwyl i’r gîcs fod wedi etifeddu’r byd. Ond dyna ddigwyddodd! Mae Loserville yn rhoi’r saithdegau i ni gyda chast o gymeriadau sy’n hollol gyfarwydd a sgôr sy’n gwbl gyfoes. Gyda cherddoriaeth pop-roc drydanol a sgript hynod o ddoniol, mae hon yn sioe gerdd wych i’w mwynhau, yn llawn cerddoriaeth bwerus, heb ddim dal yn ôl.

Prisiau Tocynnau

£9.50

Plant £7

Dros 60 oed £7

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Iau
25 Ebrill 2024

7pm

Dydd Gwener
26 Ebrill 2024

7pm

Dydd Sadwrn
27 Ebrill 2024

2pm

Dydd Sadwrn
27 Ebrill 2024

7pm