Theatr Colwyn

National Theatre Live: One Man, Two Guvnors 12A

Amser rhedeg: 210 mins

Cyfarwyddwr: Nicholas Hytner

Genre: Comedi

Cast: James Corden, Jemima Rooper

gan Richard Bean yn seiliedig ar ddrama ‘The Servant of Two Masters’ gan Carlo Goldoni, gyda chaneuon gan Grant Olding

Gyda pherfformiad a enillodd wobr Tony i gyflwynydd The Late Late Show, James Corden, mae sioe fawreddog y West End a Broadway, One Man, Two Guvnors, yn dychwelyd i sinemâu i nodi pen-blwydd National Theatre Live yn ddeg oed.

Ar ôl cael y sac o’i fand sgiffl, mae Francis Henshall (Corden) yn dod yn warchodwr i Roscoe Crabbe, dihiryn di-nod o’r East End, sy’n mynd i Brighton i gasglu £6,000 gan dad ei ddyweddi.

Ond mewn gwirionedd ei chwaer, Rachel, yw Roscoe sy’n dynwared ei brawd ei hun sydd wedi cael ei ladd gan ei chariad, Stanley Stubbers.

Wrth guddio yn y Cricketers’ Arms, mae Francis sydd ar lwgu drwy'r amser yn achub ar y cyfle am docyn bwyd ychwanegol ac yn cymryd ail swydd gyda dyn o'r enw Stanley Stubbers, sy’n cuddio oddi wrth yr heddlu ac yn aros i gael ei aduno â Rachel. I osgoi cael ei ddal, mae’n rhaid i Francis gadw ei ddau feistr ar wahân. Syml.

Prisiau Tocynnau

£12.50

Consesiwn £11.50

Ffrindiau / Cerdyn Premier £10.50

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Llun
30 Medi 2019

7pm