Theatr Colwyn

Non-Fiction 15

Amser rhedeg: 108 mins

Cyfarwyddwr: Olivier Assayas

Genre: Drama

Cast: Guillaume Canet, Juliette Binoche

Noson Ffilm Rialto

Mae carwriaeth rhwng yr actores Selena (Juliette Binoche) a’r awdur Léonard (Vincent Macaigne) bron a chael ei ddatgelu ymysg eu ffrindiau agosaf yn nofel hunangofiannol Léonard.

Yn ffodus iddyn nhw, mae Alain (Guillaume Canet), gŵr Selena a chyhoeddwr Léonard, yn gwrthod y llyfr ac yn hollol anymwybodol o’r holl sefyllfa, ond efallai oherwydd ei fod ef mewn perthynas arall hefyd!

Ond yn y diwedd, rhaid i’r grŵp wynebu eu bywydau dwbl, mewn comedi o gelfyddyd, carwriaethau ac argyfyngau canol oed. Gan y cyfarwyddwr Olivier Assayas (Personal Shopper, Clouds of Sils Maria), mae ffilm Assayas yn darlunio portread doniol a nwyfus o bobl dosbarth uwch gyda gwerthoedd dosbarth is.

‘Mae holl fywyd modern yma – y da, y drwg, yr annioddefol – ac mae’n ogoneddus. Yn Non-Fiction, gwelwn Olivier Assayas mewn ffordd ysgafnach, ac mae’n edrych yn dda.’ EMPIRE MAGAZINE

  • Yn Ffrangeg gydag is-deitlau Saesneg
  • Nodweddion noethni

Prisiau Tocynnau

£7

Cyfeillion / Cerdyn Premier - £6.50

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Iau
27 Chwef 2020

7.30pm