Theatr Colwyn

NT Live: A Midsummer Night's Dream Cert tbc

Cyfarwyddwr: Nicholas Hytner

Genre: Antur , Ffantasi , Comedi

Cast: Gwendoline Christie, Oliver Chris, David Moorst, Hammed Animashaun

Gan William Shakespeare | Wedi’i recordio o flaen cynulleidfa fyw

“The course of true love never did run smooth.”

Mae Brenin a Brenhines cecrus y goedwig yn dod ar draws pedwar cariad ffoëdig a grŵp o actorion yn ceisio ymarfer drama. Wrth i’w ffrae ddwysau, mae’r cwpl brenhinol hudolus yn chwarae gem gyda bywydau dynol gan arwain at drionglau cariad, hunaniaethau wedi'u camgymryd a thrawsnewid … gyda chanlyniadau doniol, ond tywyll.

Bydd comedi rhamantus mwyaf enwog Shakespeare yn cael ei recordio’n fyw yn Bridge Theatre, Llundain. Gwendoline Christie (Game of Thrones), Oliver Chris (Green Wing, NT Live: Young Marx), David Moorst (NT Live: Allelujah! a Hammed Animashaun (The Barber Shop Chronicles) sy'n arwain y cast fel Tatania, Oberon, Puck a Bottom.

Wedi’i gyfarwyddo gan Nicholas Hytner, bydd y cynhyrchiad hwn o A Midsummer Night's Dream yn adeiladu ar lwyddiant ei lwyfannu ymdrochol o Julius Caesar (NT Live 2018). Bydd y Bridge Theatre yn trawsnewid i fod yn goedwig - byd breuddwydiol o dylwythau teg, niwl cydlynol a golau lleuad ysblennydd, i gyd wedi’i amgylchynu gan gynulleidfa symudol yn dilyn y ddrama wrth gerdded o amgylch yr ystafell.

Prisiau Tocynnau

£12.50

Concession - £11.50

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Iau
17 Hyd 2019

7pm

Other shows you may like

Wedi’i recordio’n fyw

NT Live: Hansard Cert tbc

25.11.2019 - 25.11.2019
Profwch enillwyr dwy wobr Oliver, Lindsay Duncan (Birdman, About Time) ac Alex Jennings (The Lady in the Van, The Queen), yn y ddrama lwyfan newydd sbon hon gan Simon Wood, wedi'i darlledu’n fyw o'r Theatr Genedlaethol yn Llundain.
Wedi’i recordio’n fyw

NT Live: Present Laughter Cert tbc

28.11.2019 - 28.11.2019
Mae Matthew Warchus yn cyfarwyddo Andrew Scott (Sherlock BBC, Fleabag) yng nghomedi profoclyd Noël Coward, Present Laughter.
Wedi’i recordio’n fyw

RSC Live: Timon of Athens Cert tbc

20.11.2019 - 20.11.2019
Mewn byd sy’n cael ei yrru gan drachwant, beth ydym ni’n ei werthfawrogi’n wirioneddol?