Theatr Colwyn

NT Live: All About Eve

Genre: Drama

Cast: Gillian Anderson, Lily James

Gan Joseph L Mankiewicz

Wedi’i haddasu a’i chyfarwyddo ar gyfer y llwyfan gan Ivo van Hove

Mae Gillian Anderson (X-Files, National Theatre yn Fyw: A Streetcar Named Desire) a Lily James (Mamma Mia! Here We Go Again) yn arwain yn All About Eve, sy'n cael ei ddarlledu’n fyw i sinemâu o’r West End yn Llundain.

Mae All About Eve yn adrodd stori Margo Channing. Athrylith. Gwir seren y theatr. Hi sydd piau'r sbotolau, ac felly y bu hi erioed. Ond dyma Eve. Ei dilynwr mwyaf brwd. Eve y ferch ifanc, hardd. Y ferch euraidd, y ferch drws nesa. Ond rydych chi’n gwybod y cyfan am Eve...dydych...?

Wrth godi’r llen ar fyd o genfigen ac uchelgais, mae'r cynhyrchiad newydd hwn gan un o gyfarwyddwyr theatr mwyaf arloesol y byd, Ivo van Hove (Network, National Theatre yn Fyw: A View from the Bridge), yn gofyn pam nad yw ein diddordeb yn y sêr, ieuenctid a hunaniaeth byth i’w weld yn pylu.

Mae All About Eve wedi’i haddasu gan Ivo van Hove o’r ffilm Twentieth Century Fox o 1950 gan Joseph L Mankiewicz a'r ddrama "The Wisdom of Eve” gan Mary Orr. Mae Ivo van Hove yn cyfarwyddo’r fersiwn newydd hon ar gyfer y llwyfan gyda dyluniadau set a goleuo gan Jan Versweyveld, gwisgoedd gan An D’Huys a cherddoriaeth gan yr enillydd Gwobr Mercury ddwywaith, P J Harvey, ynghyd â dylunio sain gan Tom Gibbons. Mae’r cast wedi’i ffurfio gan Julia Horan CDG.

Lluniau: Gillian Anderson gan Pari Dukovic a Lily James gan Perou.
Dyluniad:
Bob King Creative.

Prisiau Tocynnau

£12.50

Consesiwn £11.50

Ffrindiau / Cerdyn Premier £10.50

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Iau
11 Ebrill 2019

7pm