Theatr Colwyn

NT Live: All My Sons Cert tbc

Cyfarwyddwr: Jeremy Herrin

Genre: Drama

Cast: Sally Field, Bill Pullman, Jenna Coleman, Colin Morgan

Dangosiad Encore

Wedi ei ddarlledu’n fyw o The Old Vic yn Llundain, bydd enillydd Gwobr yr Academi Sally Field (Steel Magnolias, Brothers & Sisters) a Bill Pullman (The Sinner, Independence Day) yn serennu yn nrama gyffrous Arthur Miller, All My Sons.

America, 1947. Er waethaf penderfyniadau caled ac ergydion hyd yn oed caletach, mae Joe a Kate Keller yn stori o lwyddiant. Maent wedi codi cartref, magu dau o feibion ac wedi sefydlu busnes ffyniannus.

Ond nid oes dim yn para am byth ac mae eu bywydau bodlon, sydd eisoes dan gwmwl tywyll ar ôl colli eu mab i ryfel, ar fin chwalu'n deilchion. Wrth i ffigwr o’r gorffennol ddychwelyd, mae celwyddau a gladdwyd ers amser maith yn cael eu gwthio i’r wyneb ac mae pris y freuddwyd Americanaidd yn glir i’w weld.

Jeremy Herrin (Yn fyw o’r Theatr Genedlaethol: This House, People, Places & Things) yn cyfarwyddo cast gan gynnwys Jenna Coleman (Victoria), a Colin Morgan (Merlin).

Mae All My Sons yn gyd-gynhyrchiad gan yr OId Vic a Headlong.

Prisiau Tocynnau

Pris llawn - £12

Consesiwn - £11

Ffrindiau / Cerdyn Premier - £10

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Gwener
07 Meh 2019

7pm