Theatr Colwyn

NT Live: Fleabag 15 (as live)

Amser rhedeg: 100 mins

Cyfarwyddwr: Vicky Jones

Genre: Drama , Comedi

Cast: Phoebe Waller-Bridge

AR WERTH - MAW 3 MEDI, 10am

Wedi’i hysgrifennu a’i pherfformio gan Phoebe Waller-Bridge
Cyfarwyddwr: Vicky Jones

★★★★★ 'Witty, filthy and supreme.' Guardian

Cyfle i weld y sioe un ddynes ddigri a ysbrydolodd y gyfres deledu hynod boblogaidd Fleabag yn cael ei darlledu’n fyw i sinemâu o’r West End.

Wedi’i hysgrifennu a’i pherfformio gan Phoebe Waller-Bridge (Fleabag, Killing Eve) a’i chyfarwyddo gan Vicky Jones, mae Fleabag yn bortread di flewyn ar dafod a doniol ar ryw fath o ddynes yn byw rhyw fath o fywyd.

Efallai fod Fleabag yn meddwl gormod o lawer am ryw, yn dweud beth bynnag sy’n dod i’w meddwl ac yn gwbl hunanol, ond dim ond pigyn y rhewfryn ydi hyn. Gyda’i theulu a’i ffrindiau o dan straen a’i chaffi mewn peryg o fynd i’r wal, mae Fleabag yn sydyn iawn yn cael ei hun mewn sefyllfa lle nad oes ganddi unrhyw beth i’w golli.

Wedi chwarae mewn theatrau gorlawn yn Efrog Newydd a Llundain, peidiwch â cholli eich cyfle i weld y sioe tu hwnt o ddoniol hon yn cael ei darlledu’n fyw i sinema yn eich ardal chi.

Cyflwynir gan DryWrite, Soho Theatre ac Annapurna Theatre

Prisiau Tocynnau

£12.50

Consesiwn - £11.50

Cyfeillion / Cerdyn Premier - £10.50

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Iau
12 Medi 2019

7.30pm

Other shows you may like

Wedi’i recordio’n fyw

NT Live: A Midsummer Night's Dream Cert tbc

17.10.2019 - 17.10.2019
“The course of true love never did run smooth.”
Wedi’i recordio’n fyw

NT Live: Hansard Cert tbc

25.11.2019 - 25.11.2019
Profwch enillwyr dwy wobr Oliver, Lindsay Duncan (Birdman, About Time) ac Alex Jennings (The Lady in the Van, The Queen), yn y ddrama lwyfan newydd sbon hon gan Simon Wood, wedi'i darlledu’n fyw o'r Theatr Genedlaethol yn Llundain.
Wedi’i recordio’n fyw

NT Live: Present Laughter Cert tbc

28.11.2019 - 28.11.2019
Mae Matthew Warchus yn cyfarwyddo Andrew Scott (Sherlock BBC, Fleabag) yng nghomedi profoclyd Noël Coward, Present Laughter.