Theatr Colwyn

NT Live: Jack Absolute Flies Again

Cyfarwyddwr: Thea Sharrock

Genre: Comedi

Cast: Caroline Quentin, Richard Fleeshman

Dangosiad Encore

Comedi dros ben llestri newydd.

Gan awdur One Man, Two Guvnors, daw drama newydd ddoniol, wedi’i gosod yn ystod haf y 1940au ym Mhrydain.

Ar ôl ysgarmes awyr, mae’r Peilot-Swyddog Jack Absolute yn hedfan adref i ailymuno â’i sgwadron Hurricane ifanc dewr yn RAF Fontwell. Pan fydd yn ôl ar dir Prydain, mae Jack yn synnu o weld ei hen gariad, Lydia, yno. Mae’n ceisio ennill ei chariad, ond gyda therfysg a doniolwch gerllaw, mae ei ymdrechion yn troi’n anhrefn yn fuan.

Mae Thea Sharrock (Me Before You) yn cyfarwyddo cast sy’n cynnwys Caroline Quentin a Richard Fleeshman yn y ffars lawen hon.

‘The funniest show on the planet.’ Daily Mail am One Man, Two Guvnors

Gan Richard Bean ac Oliver Chris
yn seiliedig ar The Rivals gan Richard Brinsley Sheridan

Prisiau Tocynnau

£13

Consesiwn - £12

Cyfeillion / Cerdyn Premier - £11

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Iau
03 Medi 2020

7pm