Theatr Colwyn

NT Live: The Madness of George III 12A

Genre: Drama

Cast: Mark Gatiss

Dangosiad Encore

Bydd y ddrama The Madness of George III, sydd wedi ennill amryw o wobrau, yn cael ei darlledu’n fyw i sinemâu, yn narllediad cyntaf erioed y National Theatre Live o’r Nottingham Playhouse.

Wedi’i hysgrifennu gan un o hoff ddramodwyr Prydain, Alan Bennett (The History Boys, The Lady in the Van), addaswyd y ddrama hon yn ffilm a enillodd BAFTA hefyd, ar ôl ymddangos am y tro cyntaf ar lwyfan yn 1991.
Mae cast y cynhyrchiad newydd hwn yn cynnwys enillwyr gwobrau Olivier, Mark Gatiss (Sherlock, Wolf Hall, NT Live Coriolanus) fel George III, ac Adrian Scarborough (Gavin and Stacey, Upstairs Downstairs, After the Dance).

Y flwyddyn yw 1786 a’r Brenin George III yw’r dyn mwyaf pwerus yn y byd. Ond mae ei ymddygiad yn dod yn gynyddol afreolaidd wrth iddo gael cyfnodau o wallgofrwydd. Gyda meddwl y Brenin yn gwaethygu yn gyflym, mae gwleidyddion uchelgeisiol a Thywysog Cymru yn bygwth tanseilio pŵer y Goron, a datgelu’r llinell denau iawn rhwng Brenin a dyn.

Prisiau Tocynnau

Pris llawn £12

Consesiwn £11

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Mawrth
04 Rhag 2018

7pm

Other shows you may like

Byw Sgrinio

NT Live: I'm Not Running 12A

31.01.2019 - 31.01.2019
Mae I’m Not Running yn ddrama newydd ffrwydrol gan David Hare, sy’n cael ei berfformio am y tro cyntaf yn y Theatr Genedlaethol a’i ddarlledu’n fyw i sinemâu.
Byw Sgrinio

NT Live: Antony & Cleopatra 12 (as live)

06.12.2018 - 06.12.2018
Yn darlledu’n fyw o’r Theatr Genedlaethol, mae Ralph Fiennes a Sophie Okonedo yn chwarae cwpl enwog Shakespeare yn ei drasiedi fawr o wleidyddiaeth, angerdd a phŵer.