Theatr Colwyn

Red Joan 12A

Amser rhedeg: 101 mins

Cyfarwyddwr: Trevor Nunn

Genre: Drama

Cast: Judi Dench, Sophie Cookson, Alfie Allen, Kim Allen, Stephen Boxer, Olivia Buckland, Stephen Campbell Moore

“I was a shadow in a man’s world. Invisible…but in the end, powerful.”

Mewn pentref bach del yn Lloegr, mae Joan Stanley (y Fonesig Judi Dench, enillydd Gwobr Academi) yn fodlon iawn ei byd ar ôl ymddeol. Yna, yn sydyn, mae ei bywyd heddychlon yn cael ei falu’n deilchion wrth iddi gael ei harestio gan MI5. Oblegid mae gan Joan orffennol anhygoel; hi oedd un o ysbiwyr mwyaf dylanwadol ei hoes...

Ym Mhrifysgol Caergrawnt yn y 1930au, mae’r Joan ifanc (Sophie Cookson), myfyriwr ffiseg swil, yn syrthio dros ei phen a'i chlustiau mewn cariad â Leo, sabotwr golygus o Rwsia. Drwyddo fo, mae hi’n dechrau sylweddoli bod y byd ar fin y gyllell ac angen ei achub rhagddo ei hun yn y ras i oruchafiaeth filwrol.

Mae’r rhyfel wedi dod i ben ac mae Joan rŵan yn gweithio mewn cyfleuster ymchwil niwclear tra chyfrinachol, ac mae hi’n wynebu’r amhosibl: A fyddech chi’n bradychu eich gwlad a’ch anwyliaid, pe bai hynny’n golygu y gallech chi eu hachub? Pa bris fyddech chi’n ei roi am heddwch?

Wedi ei ysbrydoli gan stori wir, mae Red Joan yn hanes emosiynol am aberth un ferch yn wyneb amgylchiadau anhygoel iawn.

Merch ac arnom ein rhyddid iddi.

Prisiau Tocynnau

£6

Cyfeillion / Cerdyn Premier - £5

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Gwener
03 Mai 2019

7.30pm

Dydd Sadwrn
04 Mai 2019

7.30pm

Dydd Sul
05 Mai 2019

7.30pm

Dydd Mawrth
07 Mai 2019

7.30pm (subtitled)

Dydd Iau
09 Mai 2019

7.30pm