

Simon & Garfunkel Through the Years
Genre: Cerddoriaeth
Cast: Dan Haynes, Pete Richards
Mae Seventh Avenue Arts yn cyflwyno: Simon & Garfunkel Through the Years
Mae’r sioe hon bellach yn adnabyddus fel un o’r sioeau teyrnged gorau yn y byd. Mae Simon & Garfunkel Through The Years wedi teithio’r byd ac wedi derbyn canmoliaethau helaeth gan lenwi theatrau noson ar ôl noson.
Gyda Dan Haynes a Pete Richards a elwir gyda'i gilydd yn Bookends, mae’r sioe hon yn ‘gampwaith’ (BBC Radio) sy’n llwyddo i ail-greu sain amlwg Simon & Garfunkel yn berffaith.
Cewch glywed nifer o’r caneuon mwyaf poblogaidd fel The Sound of Silence, Mrs Robinson, The Boxer a’r enwocaf ohonynt i gyd, Bridge Over Troubled Water. Yn wir, y cyngerdd byw yma yw’r profiad agosaf at Simon & Garfunkel sy’n teithio’r byd heddiw.
“A masterpiece” - BBC Radio
“One of the greatest tribute shows anywhere in the world” - Stuart Cameron, BBC and ITV Broadcaster
Prisiau Tocynnau
£23.50
Consesiwn - £22.50
Cyfeillion / Cerdyn Premier - £20
Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau
Dydd Iau
24 Medi 2020
7.30pm