
The Haunting of Blaine Manor
Cyfarwyddwr: Joe O'Byrne
Genre: Drama , Antur
Enillydd Gwobr The Salford Star Best Play of the Year
Lloegr, 1953. Gwahoddir y paraseicolegydd Americanaidd, Doctor Roy Earle, sy’n enwog am amau straeon ysbrydion a datgelu cyfryngwyr ffug, i fynychu seans yn yr adeilad sydd â’r mwyaf o fwganod yn Lloegr, adeilad gyda hanes ofnadwy, Blaine Manor. Ni wnaiff hyd yn oed y bobl leol fynd yno, oherwydd caiff pawb sy’n cerdded y tir yno eu melltithio.
Ond mae ei bresenoldeb yn y faenor wedi deffro rhywbeth, rhywbeth ofnadwy yn y waliau. Wrth i storm fawr gau Blaine Manor oddi wrth y byd y tu allan, mae Earle a’r lleill yn gweld nad yw beth sy’n aros yno hanner mor ofnadwy a beth sydd wedi dod i mewn gydag ef...
Ysgrifennwyd a Chyfarwyddwyd gan Joe O’Byrne
Prisiau Tocynnau
Oedolion - £16.50
Consesiwn - £15.50
Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau
Dydd Gwener
12 Tach 2021
7.30pm