Theatr Colwyn

The King & I: From the London Palladium 12 (as live)

Genre: Sioe Gerdd

Cast: Ken Wanatabe, Kelli O'Hara

Daw cynhyrchiad clodwiw Theatr Canolfan Lincoln o sioe Rodgers and Hammerstein ‘The King and I’, wedi’i recordio’n fyw yn theatr eiconig Llundain, y Palladium, i sinemâu mewn digwyddiad na ddylech ei fethu.

Wedi’i gosod yn Bangkok yn y 1860au, mae’r sioe gerdd yn adrodd hanes y berthynas anghonfensiynol a thymhestlog sy’n datblygu rhwng Brenin Siam (Ken Wanatabe) ac Anna (Kelli O’Hara), athrawes ysgol Brydeinig y mae Brenin modernaidd gwlad imperialaidd Siam yn ei chyflogi i addysgu ei wragedd a’i blant niferus.

Gydag un o’r sgorau gorau erioed, yn cynnwys ‘Whistle a Happy Tune’, ‘Getting to Know You’ a ‘Shall We Dance’, a gyda chwmni o dros 50 o berfformwyr hynod dalentog, mae the King and I yn clodfori etifeddiaeth gyfoethog theatr gerddorol odidog o ramantus; hon yw’r sioe orau o oes euraidd y sioeau cerdd.

“Five stars for a sumptuous King and I. Book Now. It’s a hit” - The Times

Prisiau Tocynnau

Pris llawn £12

Consesiwn £11

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Gwener
30 Tach 2018

7pm