Theatr Colwyn

The Lego Movie 2: The Second Part Cert tbc

Cyfarwyddwr: Mike Mitchell

Cast: Chris Pratt, Elizabeth Banks, Will Arnett, Alison Brie, Nick Offerman, Charlie Day, Tiffany Hadish, Stephanie Beatriz

Mae’r dilyniant hir-ddisgwyliedig i’r ffenomenon byd-eang wedi cyrraedd, mae The LEGO® Movie 2 yn dod ag arwyr Bricksburg at ei gilydd unwaith eto ar gyfer antur gyffrous newydd i achub eu dinas. Mae pum mlynedd wych wedi mynd heibio ond mae’r dinasyddion rŵan yn wynebu bygythiad mawr newydd: goresgynwyr LEGO DUPLO® o’r gofod pell, sy’n difetha bob dim cyn y mae modd ei ailgodi.

Bydd y frwydr i orchfygu’r goresgynwyr ac adfer heddwch ym myd LEGO yn mynd ag Emmet, Lucy, Batman a’u cyfeillion ar daith i fydoedd pell a newydd, gan gynnwys galaeth llawn planedau a chymeriadau rhyfedd, gyda chaneuon newydd bachog. Bydd yn rhoi eu dewrder, eu creadigrwydd a’u sgiliau adeiladu ar brawf, ac yn datgelu pa mor arbennig ydyn nhw.

Prisiau Tocynnau

Oedolion - £5.50

Dan 15 - £4.50

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Gwener
22 Chwef 2019

2.30pm

Dydd Sadwrn
23 Chwef 2019

2.30pm

Dydd Llun
25 Chwef 2019

2.30pm

Dydd Mawrth
26 Chwef 2019

2.30pm

Dydd Mercher
27 Chwef 2019

2.30pm

Dydd Iau
28 Chwef 2019

2.30pm