Theatr Colwyn

The Rocky Horror Live 12A

Amser rhedeg: 135 mins

Cyfarwyddwr: Christopher Luscombe

Genre: Sioe Gerdd

Cast: Ore Oduba, Stephen Webb, Philip Franks, Haley Flaherty, Kristian Lavercombe

Yn barod i’ch diddanu gyda thameidiau hwyliog a drygionus sioe gerdd roc a rôl chwedlonol Richard O’Brien, mae The Rocky Horror Show yn dod i sgrin fawr Theatr Colwyn. Mae’r perfformiad calan gaeaf arbennig yma’n cael ei ddarlledu’n fyw o Sadler’s Wells Peacock Theatre ar West End Llundain.

Gydag enillydd Strictly Come Dancing, Ore Oduba, yn serennu a Christopher Luscombe yn cyfarwyddo, mae The Rocky Horror Show yn mynd i fod yn barti mawr gyda’r hen ffefrynnau, yn cynnwys Sweet Transvestite, Damn it Janet a, heb anghofio’r gân stopio sioe, Time Warp.

Hanes dau fyfyriwr coleg cwrtais a diniwed, Brad a’i ddyweddi Janet yw The Rocky Horror Show. Mewn tro ffawd, ar ôl i’w car dorri i lawr y tu allan i blasty annifyr tra’u bod ar y ffordd i ymweld â’u hen Athro coleg, maent yn cyfarfod Dr Frank’n’Furter. Mae hi’n antur na wnân nhw fyth ei anghofio, yn llawn hwyl, miri, ffrogiau a gwiriondeb.

Prisiau Tocynnau

£12

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Iau
28 Hyd 2021

7.45pm