Theatr Colwyn

The Secret Life of Pets 2 U

Amser rhedeg: 86 mins

Cyfarwyddwr: Chris Renaud, Jonathan del Val

Genre: Antur , Animeiddio, Plant / Teulu

Cast: Patton Oswalt (voice), Eric Stonestreet (voice), Kevin Hart (voice), Jenny Slate (voice), Ellie Kemper (voice), Lake Bell (voice)

Mae Max y daeargi yn wynebu newidiadau mawr yn ei fywyd. Mae ei berchennog wedi priodi ac wedi cael bachgen bach o’r enw Liam. Mae Max yn poeni cymaint am warchod y bachgen bach nes ei fod yn datblygu gwingiad nerfol. Ar daith deuluol i’r fferm mae Max a Duke y mwngrel yn dod ar draws gwartheg sy'n methu â goddef cŵn, llwynogod anghyfeillgar a thwrci brawychus, sydd i gyd yn gwneud Max hyd yn oed yn fwy pryderus.

Yn ffodus mae Max yn cael ychydig o arweiniad gan hen gi ffyddlon y fferm, Rooster, sy’n gwthio Max i roi ei nerfusrwydd o’r neilltu a darganfod ei alffa mewnol a rhoi ychydig mwy o ryddid i Liam.

Yn y cyfamser, tra bod ei pherchennog i ffwrdd, mae’r Pomeraniad, Gidget, yn ceisio achub hoff degan Max rhag fflat llawn cathod gydag ychydig o help gan ei ffrind Chloe, sydd wedi canfod ei hoffter o fint y gath.

Ac mae cwningen wallgof-ond-ciwt, Snowball, yn cael rhithdybiau ei fod yn archarwr go iawn ar ôl i'w berchennog Molly ddechrau ei wisgo mewn pyjamas archarwr. Ond pan mae Daisy, Shih tzu di-ofn, yn troi i fyny i ofyn am help Snowball ar genhadaeth beryglus, bydd yn rhaid iddo ddod o hyd i’r dewrder i fod yn arwr go iawn ar ôl esgus bod yn un.

A fydd Max, Snowball, Gidget a gweddill y criw yn gallu dod o hyd i’r dewrder i wynebu eu hofnau mwyaf?

Prisiau Tocynnau

£6.50

Dan 15 oed - £5.50

Friends / Premier Card - £6

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Gwener
02 Awst 2019

2.30pm

Dydd Sadwrn
03 Awst 2019

2.30pm

Dydd Llun
05 Awst 2019

2.30pm

Dydd Mawrth
06 Awst 2019

2.30pm (subtitled)

Dydd Mercher
07 Awst 2019

2.30pm

Dydd Iau
08 Awst 2019

2.30pm

Other shows you may like

Sinema

Toy Story 4 U

09.08.2019 - 15.08.2019
Woody, Buzz Lightyear and the rest of the gang embark on a road trip with Bonnie and a new toy named Forky.