
Tommy Blaize
Genre: Cerddoriaeth
Gan Tommy Blaize y mae un o’r lleisiau mwyaf adnabyddus yn y Deyrnas Gyfunol. Yn un o brif gantorion ar raglen Strictly Come Dancing ers ugain mlynedd, mae o wedi canu’n fyw bob wythnos i hyd at 12 miliwn o bobl. Yn ystod gyrfa lewyrchus mae wedi gweithio â rhai o artistiaid mwya’r byd yn yr hanner can mlynedd diwethaf, gan gynnwys Diana Ross, Queen, y Beach Boys, Amy Winehouse, Stevie Wonder a Robbie Williams.
Rŵan mae hi’n amser i’r gŵr gyda’r llais melfedaidd gamu i flaen y llwyfan ar ei daith fawr gyntaf ar ei ben ei hun. Bydd yn canu hen ffefrynnau cyfarwydd ac yn rhannu hanesion am y mawrion y bu’n gweithio â hwy.
Prisiau Tocynnau
£27.50
Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau
Dydd Sadwrn
30 Mawrth 2024
7.30pm