Theatr Colwyn

Voodoo Room – A Night of Hendrix, Clapton & Cream

Genre: Cerddoriaeth

Jimi Hendrix, Eric Clapton a Cream. Mae Voodoo Room yn talu teyrnged i’r holl arwyr roc yma.

Dyma driawd pwerus a syfrdanol sy’n cynnwys cerddorion gorau'r DU yn perfformio sioe anhygoel yng ngwir ysbryd y sêr roc yma.

Dim wigiau na gimigau – dim ond cerddoriaeth wych gan gerddorion gwych! Yn cynnwys clasuron fel: Hey Joe, Sunshine Of Your Love, Purple Haze, Layla ac ati.

Mae aelodau’r Voodoo Room wedi recordio a theithio gyda Stevie Winwood, Massive Attack, Arthur Brown, Fish, Thunder a llawer o artistiaid adnabyddus eraill. Gyda phawb ar eu traed yn gweiddi am fwy ar y diwedd, mae si ar led nad yw sioe Voodoo Room yn un i’w cholli!

Prisiau Tocynnau

Ymlaen llaw - £18.50

Ar y diwrnod - £20

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Iau
01 Chwef 2024

7.30pm