

Taith Gomedi’r New Welsh Wave
Mae Little Wander yn falch o gyflwyno taith gomedi New Welsh Wave. Ymunwch â ni am noson gyda’r gorau o gomedi Cymreig a thalentau anhygoel sydd wedi eu meithrin yn y wlad, yn cynnwys comedïwyr adnabyddus, a rhai nad ydych yn eu hadnabod eto!
Arweinir y noson gan Kiri Pritchard-McLean, gyda Mel Owen, Anna Thomas, Bella Humphries a Tadiwa Mahlunge.
Canllaw Oedran: 16+
Mae'r daith hon yn bosibl oherwydd Cymru Greadigol.
* Kiri Pritchard-McLean
Mae’r comedïwr Cymreig, Kiri Pritchard-McLean, yn ddigrifwr stand-yp sydd wedi
ennill sawl gwobr, yn awdur ac yn ddychanwr. Mae ei hymddangosiadau teledu
diweddar yn cynnwys arwain Live at the Apollo, Have I Got News For You, 8 Out of
10 Cats a The Russell Howard Hour (y mae hi hefyd yn ysgrifennu ar ei gyfer). Mae
hi hefyd yn gyfrannwr cyson i New World Order Frankie Boyle. Yn aelod rheolaidd o’r
sîn comedi byw, mae sioe ddiwethaf Kiri, Home Truths, wedi teithio ledled y DU gan
ddenu adolygiadau gwych.
“Best described as ‘darkness wrapped in glitter’ as she delivers some brutal jokes
with a disarming smile” – Chortle
*Mel Owen
Merch o Aberystwyth a alwyd yn “Wales’ most exciting new act” (Clwb Comedi) gyda
“pin-sharp writing” (Stand Up For Comedy). Mae hi wedi ennill cystadlaethau stand-
yp ar draws y DU, gan gynnwys yn Bristol Comedy Chest, Comedy Smash yn Lerpwl
a chystadleuaeth clodwiw Comedy Virgins ar gyfer perfformwyr newydd yn Llundain.
Yn 2022, ymunodd Melanie â thîm cyflwyno Ffermio ar S4C. Fe greodd hi Mel Mal
Jal, un o bodlediadau mwyaf poblogaidd Cymru sydd wedi ei gomisiynu gan BBC
Sounds.
*Anna Thomas
Yn wreiddiol o Borth Tywyn yn ne Cymru, enillodd Anna wobr y BBC New Comedy
Award yn 2021. Ers hynny, mae hi wedi cefnogi pobl fel Joe Lycett, Kiri Pritchard-
McLean, Hal Cruttenden, Lauren Pattison, a Max Fosh. Enwebwyd Anna hefyd ar
gyfer gwobr Sean Lock gyntaf Channel 4 yn 2023.
“She has the appealing air of not quite being of this world, but whatever planet she’s
from, they know funny.” Chortle
*Bella Humphries
Mae Bella yn gomedïwr, actor a gwisgwr dyngarîs.
Dewch i’w gwylio hi’n bod yn “ddymunol mewn ffordd ddigywilydd” wrth iddi adrodd
hanesion am symud i Gymru a gofyn yr hen gwestiwn..pwy yn union ydw i?
Fel y’i clywyd ar BBC Radio Wales a BBC Sounds.
“Bella is in many ways the comedian who misogynistic boomer men fear – full of
confidence, not afraid to broach graphic content, and wittier than any of them could
ever be.” Blizzard Comedy
*Tadiwa Mahlunge
★★★★ ‘The circuit might just have created another Jimmy Carr...’ - Chortle
★★★★ ‘Young and gifted, in comedy terms, he’s already looking like the complete,
fully rounded package’ - The Scotsman
★★★★ ‘An impressively accomplished and infectiously funny debut hour’ - The
Skinny
★★★★ ‘He’s remarkably confident, with a set as smooth as his shiny silk shirt’ -
Fest Mag
★★★★ - The Daily Mail (we don’t platform them)
Fel y’i gwelwyd ar BBC One, Dave, Comedy Central, ITVx, Tadiwa has been gathering
pace as a prodigious act' - Kiri Pritchard-McLean
Enwebai sioe orau Leicester Comedy Festival.
Enwebai gwobr gomedi Channel 4 Sean Lock.
Prisiau Tocynnau
£15.50
Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau
Dydd Sadwrn
17 Chwef 2024
7.30pm