Theatr Colwyn

Beth sy’n Digwydd?

Wedi’i recordio’n fyw

Bat Out of Hell - The Musical 12A

01.07.2026 - 01.07.2026
Byddwch yn barod am y profiad roc gorau erioed wrth i ni ddod â Bat Out of Hell yn ôl i’r sgrin fawr. Bydd cast y cynhyrchiad West End yn dod ag anthemau eiconig Jim Steinman a Meat Loaf yn fyw, yn cynnwys ‘I’d Do Anything For Love (But I Won’t Do That)’, ‘Paradise By The Dashboard Light’, ‘Two Out of Three Ain’t Bad’, ‘Dead Ringer For Love’, ac, wrth gwrs, ‘Bat Out of Hell’.
Theatr

15 - Stagecoach Colwyn Bay

04.07.2026 - 04.07.2026
Ymunwch â ni am 15, sioe ben-blwydd arbennig yn dathlu 15 mlynedd anhygoel o Stagecoach Bae Colwyn dan arweinyddiaeth Kayleigh a Karin. Er bod yr ysgol ei hun wedi bod yn ysbrydoli perfformwyr ifanc ers dros 20 mlynedd, mae'r cynhyrchiad hwn yn nodi carreg filltir wirioneddol ystyrlon i'n tîm teuluol, y mae eu hangerdd, eu hymroddiad a'u cred ym mhob myfyriwr wedi llunio'r ysgol i'r hyn ydyw heddiw.
Theatr

The Sound of Music Youth Edition - Stagecoach Colwyn Bay

05.07.2026 - 05.07.2026
Ymunwch â ni ar gyfer cynhyrchiad twymgalon o The Sound of Music: Perfformiad Ieuenctid, y sioe boblogaidd yn llawn caneuon bythgofiadwy, coreograffi byw, a stori sy’n dathlu dewrder, teulu a grym cerddoriaeth.
Sinema

Oed Yr Addewid 15

07.07.2026 - 08.07.2026
Rhan o dymor ffilmiau O Gymru i’r Sgrin. Mae hi’n fis Mawrth 1997 ac ar ôl 18 mlynedd dan y Torïaid, mae Prydain yn cyrraedd croesffordd wleidyddol. Wrth i William Davies gerdded o’i dŷ un bore, mae’n gweithredu cynllun taer ac abswrd a fydd yn ei roi ar y blaen i’r system – yn ei farn ef.
Sinema

Aida - Handa Opera On Sydney Harbour U

09.07.2026 - 09.07.2026
Yn Aida, mae Verdi yn cyferbynnu carwriaeth a mawredd y bydysawd mewn modd meistrolgar: lle ceir esgyniad a chwymp teyrnasoedd ac amser yn parhau i symud yn ei flaen. Nid oes lleoliad mwy mawreddog ar gyfer opera o'r fath na Harbwr Sydney ei hun, yn tywynnu yng ngolau'r ddinas ac amlinell Tŷ Opera Sydney yn erbyn machlud yr haul.
Sinema

Disclosure Day 12A

10.07.2026 - 11.07.2026
Petaech yn darganfod nad ydym ni ar ein pen ein hunain, petai rhywun yn dangos i chi, yn profi hynny i chi, a fyddai hynny’n eich dychryn chi?