Amdanom Ni
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy sydd berchen ar Theatr Colwyn ac yn ei rheoli.
Yn theatr a sinema hanesyddol sy’n defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i gynnig i noddwyr brofiad adloniannol o’r unfed ganrif ar hugain, mae wedi cadw’r blas traddodiadol, hanesyddol a’r amgylchedd teuluol.
Mae Theatr Colwyn yn theatr sy’n derbyn cynyrchiadau gan gwmnïau theatr teithiol, yn sinema safon 4K, ac yn gartref i oriel ffotograffiaeth flaengar Oriel Colwyn.
Mae Theatr Colwyn yn falch o gael Celyn Jones, yr actor, sgriptiwr a chyfarwyddwr ffilm a aned yng Ngogledd Cymru, fel Noddwr.
Noddwr cyntaf Theatr Colwyn oedd y diweddar, wych, Terry Jones. Ganed Terry, aelod o Monty Python, cyfarwyddwr ffilm, ysgrifennwr a hanesydd canoloesol enwog, ym Mae Colwyn ac roedd yn Gymro balch drwy gydol ei fywyd.
Daeth i Theatr Colwyn lawer gwaith i ddangos ei gefnogaeth mewn digwyddiadau codi arian, yn cynnwys i godi arian at ailddatblygiad blaen tŷ mawr.
Roedd ymweliad olaf Terry â Theatr Colwyn i dorri’r rhuban yn nigwyddiad ailagor y theatr, wedi cwblhau’r gwaith ailddatblygu.
Lluniau:
Terry Jones – llun gan Paul Sampson
Celyn Jones – llun gan Kristy Garland
Hanes cryno Theatr Colwyn gan Roy Schofield a Joann Rae
Theatr Colwyn yw un o sinemâu gweithredol hynaf y DU a’r theatr weithredol hynaf yng Nghymru. Agorodd gyntaf fel neuadd gyhoeddus a lleoliad adloniant yn y 1880au.
Defnyddiwyd y lleoliad ar gyfer ystod eang o ddigwyddiadau, o ddawnsfeydd milwrol mawreddog a gynhaliwyd gan y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, i ddramâu o Lundain, darlithoedd gwleidyddol, sioeau cysgodluniau a nifer o ddigwyddiadau elusennol ac eglwysig.
Daeth y Neuadd Cyhoeddus yn ‘wyneb cyhoeddus’ i Sefydliad byd-enwog y Congo. Roedd y parchedig William Hughes, ei sylfaenydd, hefyd yn weinidog yr Eglwys Bedyddwyr Cymraeg, dafliad carreg i ffwrdd o'r Neuadd Cyhoeddus. Yn negawd cyntaf yr 20fed Ganrif, cymrodd Harry Reynolds, impresario’r West End, yr awenau, wrth ddod a'i gwmni o ‘Serenadwyr’ i’r dref.
Ym mis Ionawr 1909 fe drawsnewidiodd y neuadd i 'dŷ pictiwrs’ ar ôl gosod goleuadau trydan a moderneiddio’r awditoriwm – a chredir fod lle i rhwng 500 ac 800 o bobl i eistedd. Arhosodd Reynolds, gyda’i gwmni o gerddorion gan berfformio ar y promenâd ac yn y Neuadd Cyhoeddus ar ddiwrnodau gwlyb, hyd at 1922 pan werthodd y busnes i Frank Pittingale o ‘Coastal Cinemas’ ac yn 1924 newidiodd yr enw i The Rialto.
Am ryw reswm, methodd y busnes â ffynnu fel sinema llawn amser o dan Pittingale ac nid oedd dyfodiad y ‘talkies' – y cyntaf o’r rhain a ddangoswyd oedd ‘The Hideout’ – yn ddigon i’w achub. Dechreuodd Pittingale gyflwyno sioeau adloniant costus mewn ymgais i ddenu cynulleidfaoedd, ond heb unrhyw lwyddiant.
Ym mis Rhagfyr, 1930, bu trychineb, a chafodd The Rialto losgi'n ulw bron. Dim ond pedair wal yr adeilad a oroesodd, a disgynnodd y to i mewn gan ddinistrio'r llwyfan.
Ar ôl sefyll yn wag am nifer o flynyddoedd, cafodd yr adeilad ei ail-adeiladu yn y diwedd, fe agorodd unwaith eto yn 1936, ac ar 30 Mai'r flwyddyn honno cafodd ei enwi'n ‘The New Rialto’.
O dan arweinyddiaeth yr actor / rheolwr Stanley Ravenscroft daeth llwyddiant ysgubol. Mae Mr Ravenscroft yn parhau i fod yn rhan ddyrys o hanes Theatr Colwyn. Ychydig iawn a wyddwn amdano, ac eto, ychydig iawn a wyddai’r bobl oedd yn gweithio gydag ef amdano hefyd. Roedd yn gymeriad hynod enigmatig, a oedd yn byw yn y theatr gyda’i gath ddu fel cwmni.
Ei fwriad oedd rhentu’r adeilad am 9 wythnos fel cartref iddo ef a’i gwmni newydd ond arhosodd am 22 mlynedd! Roedd ei gwmni theatr mor safonol fel y bu i gwmni'r Old Vic, o dan arweiniad y fonesig Sybil Thorndike, boneddiges fwyaf y theatr Brydeinig ddod i wylio'u perfformiadau, tra roeddent yn teithio Cymru.
Daeth llwyddiant mawr i ran nifer o berfformwyr a fu'n gweithio yn y 'Rep'. Yr actor / cynhyrchydd Patrick Desmond oedd yr un a ddaliodd sylw ar ddawn John Osbourne, a chafodd Pauline Jameson gynnig rhan mewn drama yn y West End wedi i rywun ei gweld hi mewn cynhyrchiad yn y ‘Rep’.
Cafodd Pauline ei henwi yn un o brif actorion clasurol ei chenhedlaeth. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, parhaodd y perfformiadau, a bu cynulleidfaoedd mawr yn y 'Rep' wrth i filoedd o weithwyr y Weinyddiaeth Fwyd o Lundain gael eu hanfon i Fae Colwyn i weithio.
Cyflogodd Ravenscroft Ogleddwr o’r enw Jack Howarth fel rheolwr llwyfan. Yn ddiweddarach, bu Howarth yn enwog fel un o gymeriadau hoffus Coronation Street, Albert Tatlock. Gadawodd Ravenscroft y theatr yn 1958, oherwydd salwch ac yn 1959 prynodd y Cyngor yr adeilad a’i ail-enwi’n ‘The Prince of Wales’, gyda chwmni theatr newydd o dan arweiniad rheolwr theatr arall o Lundain, Geoffrey Hastings. Unwaith eto, bu’r ‘Rep’ yn llwyddiant ysgubol. Mewn ychydig fisoedd yn unig, daeth 33,000 o bobl i weld cynyrchiadau, yn cynnwys tymor o berfformiadau gydag actor anadnabyddus ar y pryd, Charles Dance.
Cafodd y ‘Rep' ei ddisodli gan gyfres boblogaidd o sioeau llwyfan. Yn 1991, fel rhan o raglen moderneiddio, newidiodd yr enw eto, i Theatr Colwyn, a 5 mlynedd yn ddiweddarach ffurfiwyd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a bu iddynt hwythau gymryd yr awenau.