Theatr Colwyn

Ahh…Freak Out! – The World’s Biggest Disco hits!

Dewch i ymgolli yng nghaneuon Disgo gorau’r byd!

Camwch i mewn i’r peiriant amser ac ewch ar siwrnai i’r 1970au wrth i ni droi’r cloc yn ôl a dod â thân y disgo’n ôl YN FYW ar y llwyfan! Byddwch yn barod i ddawnsio’n ddi-baid wrth i ni fynd â chi ar siwrnai wefreiddiol drwy lu o’r caneuon disgo mwyaf poblogaidd erioed gyda’n band byw talentog. Caneuon a churiadau unigryw Donna Summer, Earth Wind and Fire, y Bee Gees, Gloria Gaynor a mwy i gyd mewn un sioe wefreiddiol!

Felly ewch i chwilio am eich dillad a’ch esgidiau gorau o’r 70au ac ymunwch â ni am wledd o ddisgo a fydd yn nid yn unig yn codi curiad eich calon ond yn gwneud lles i’ch enaid hefyd.

“Llewyrch a gwefr oes y disgo ar y llwyfan! Roedden ni isio mwy!”

Sioe deyrnged yw hon ac nid yw’n gysylltiedig ag unrhyw un o’r artistiaid / ystadau / cwmnïau rheoli gwreiddiol na sioeau tebyg.

  • Sylwer mai dim ond bwyd a diod sydd wedi’u prynu gan Theatr Colwyn y dylech eu bwyta a’u hyfed yma.




Prisiau Tocynnau

£26.00

Cardyn Premier £24.75

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Sadwrn
26 Ebrill 2025

7.30pm