Alfie Moore: A Face for Radio
Genre: Comedi
Rhywle mewn bydysawd cyfochrog, cafodd sgiliau perfformio digrif naturiol Alfie eu cydnabod gan ei rieni cariadus a oedd yn annog ac yn datblygu ei ddawn eginol. Ar ôl sawl blwyddyn mewn ysgol lwyfan, cafodd wyneb angylaidd Alfie ei lansio ar y llwyfan a’r sgrin ac mae’r gweddill yn hen hanes.
Yn y cyfamser, yn y bydysawd hwn, dywedwyd wrth Alfie Moore am roi’r gorau i'w ddrygioni yn y dosbarth cyn cael ei ‘annog’ i fyd diflas a bawlyd prentisiaeth yng ngwaith dur Sheffield. Pan darodd y dirwasgiad, fe newidiodd dur am ‘gopr’ drwy ymuno â Heddlu Glannau Humber.
Mae deng mlynedd ar hugain o waith sifft, yng ngwaith dur Sheffield i ddechrau ac yna fel plismon ar y bît (lle cafodd ei ddyrnu yn ei wyneb gryn dipyn), wedi ei adael gyda ‘wyneb ar gyfer y radio’. Nid wyneb ‘cartrefol’ mohono, ond yn hytrach wyneb sydd wedi gweld diffyg cynnal a chadw dros y blynyddoedd.
Yn ei 40au, cafodd Alfie newid annisgwyl mewn gyrfa, a rhoddodd orau i blismona ar y stryd i fod yn seren radio'r BBC. Ond pan ddaeth enwogrwydd teledu i'w ran, a allai fynd i’r afael â’r her, neu a oedd wedi mynd yn rhy hen?
“…offbeat, revealing and very funny” You Magazine
“…thoroughly engaging, endlessly funny. His charisma shines through as bright and colourful as a twirling blue light. Mature Times
- Sylwer mai dim ond bwyd a diod sydd wedi’u prynu gan Theatr Colwyn y dylech eu bwyta a’u hyfed yma
Prisiau Tocynnau
£21.50
Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau
Dydd Gwener
06 Meh 2025
7.30pm