Cymraeg

Alice in Wonderland

Dewch yn llu, dewch yn llu! Mae Gwlad Hud wedi cyrraedd ac mae Alys ar fin darganfod nad syrcas cyffredin ydi’r syrcas newydd a hynod yma! 

Ymunwch ag Alys wrth iddi gamu i fyd syrcas llawn gwiriondeb a rhyfeddodau. Gydag egni heintus a llond y lle o hud theatraidd mae’r addasiad newydd yma, wedi’i ysgrifennu a’i gyfarwyddo gan John Garfield-Roberts, yn rhoi gwedd newydd ar Alys yng Ngwlad Hud ac yn ail-ddychmygu stori boblogaidd Lewis Carroll fel awr o antur syrcas gyffrous. 

Gyda thri actor cerddorol a thalentog daw’r antur yn fyw o flaen eich llygaid wrth iddyn nhw newid cymeriadau, chwarae cerddoriaeth fyw a chonsurio byd wyneb i waered Gwlad Hud.

Gan y cwmni theatr sy’n gyfrifol am sioe Nadolig hynod boblogaidd The Nosey Reindeer fe gawn antur gyffrous i’r teulu cyfan lle gall unrhyw beth ddigwydd. 

Felly eisteddwch i lawr, disgwyliwch yr annisgwyl a gadewch i ledrith Gwlad Hud eich swyno!

 

Prisiau Tocynnau

£17

Under 16s £14

Family £54

*Ticket Price Includes £1.50 Administration Fee and 50p Theatre Levy*

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Llun
02 Awst 2027

12.30pm

Dydd Llun
02 Awst 2027

4pm