Theatr Colwyn

An Evening with Liz Bonnin - Presented by North Wales Wildlife Trust

Genre: Sgwrs

Noson gyda Liz Bonnin - Wedi’i chyflwyno gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru

Ymunwch ag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru am noson arbennig gyda’r ddarlledwraig, y biolegydd a’r gyflwynwraig natur boblogaidd Liz Bonnin, a fydd yn sgwrsio gyda Phrif Weithredwr Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Craig Bennett.

Fel Llywydd yr Ymddiriedolaeth Natur ers 2020, y fenyw gyntaf i ymgymryd â'r rôl, mae Liz Bonnin wedi bod ar flaen y gad yng nghenhadaeth y mudiad i amddiffyn 30% o dir a môr er budd natur erbyn 2030.

O arwain sgyrsiau ar adfer natur y DU i gyflwyno rhaglenni dogfen arloesol fel Drowning in Plastic, Galapagos, a Blue Planet Live, mae Liz yn dod â mewnwelediad pwerus i'r heriau sy'n wynebu ein planed.

Mae hwn yn gyfle unigryw i glywed am ei gyrfa ryfeddol, ei hangerdd dros wyddoniaeth a'r byd naturiol, a sut brofiad yw gweithio gyda'r Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt yn ystod cyfnod mor allweddol. Gallwch ddisgwyl sgwrs onest mewn noson ysbrydoledig a fydd yn procio’r meddwl.


  • Sylwer mai dim ond bwyd a diod sydd wedi’u prynu gan Theatr Colwyn y dylech eu bwyta a’u hyfed yma.


Prisiau Tocynnau

£12

Pobl dan 25 oed, Myfyrwyr, Y di-waith £9

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Mercher
03 Rhag 2025

7pm