Cymraeg

André Rieu’s 2026 Christmas Concert: Let It Snow

Genre: Cerddoriaeth

Dros dymor y Nadolig, dathlwch amser gorau’r flwyddyn ar y sgrin fawr gyda Chyngerdd Nadolig 2026 André Rieu - Let It Snow. 

Mae’r sioe Nadoligaidd wresog hwn, yn llawn clasuron Nadoligaidd, waltz hardd, a syrpreisys hudolus, a fydd yn gwneud i chi wenu yn hir ar ôl i’r sioe orffen. Yn ymuno ag ef mae ei Gerddorfa Johann Strauss fyd-enwog, sopranos anhygoel a chôr meibion pwerus 12 llais, gan ddod ag ysbryd y Nadolig yn fyw mewn digwyddiad cerddorol bythgofiadwy. Yn llawn cerddoriaeth, chwerthin a hwyl yr ŵyl, mae’r gyngerdd hon yn berffaith ar gyfer y teulu cyfan.

Os ydych chi wedi eich amgylchynu gan eira neu’n breuddwydio amdano, profwch hud y Nadolig ar y sgrin fawr gyda’ch anwyliaid. Gorffennwch eich blwyddyn ar uchafbwynt gyda Let It Snow – yn y sinemâu yn unig!

Prisiau Tocynnau

£16.50

Consesiwn £15.50

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Sul
06 Rhag 2026

2pm