Theatr Colwyn

Andrew Lloyd Webber's Starlight Express - Live On Stage PG

Cyfarwyddwr: Brett Sullivan

Genre: Sioe Gerdd

Cast: Jeevan Braich, Jade Marvin, Olivia Ringrose, Asher Forth, Sophie Naglik, George Jones

*Dangosiad Sinema*

Wedi’i ffilmio yn fyw yn Awdiotoriwm Starlight yn Theatr Troubadour, Parc Wembley, bydd Starlight Express - Live On Stage gan Andrew Lloyd Weber yn trochi cynulleidfaoedd mewn byd o gyflymder, cân ac adrodd stori wrth i gast anhygoel o 40 wibio ar draws y sgrin, yn perfformio rhai o hoff ganeuon y theatr gerdd.

Wrth i set trên plentyn ddod yn fyw ac wrth i’r injan rasio i ddod y cyflymaf yn y byd, ychydig iawn o obaith sydd gan Rusty, y trên stêm, i ennill nes y caiff ei ysbrydoli gan chwedl y ‘Starlight Express’.

Dyma sioe lwyfan glasurol, sydd wedi cael ei weld o amgylch y byd gan dros 30 miliwn o bobl yn y 40 mlynedd ddiwethaf. Gyda cherddoriaeth gan Andrew Lloyd Webber a geiriau gan Richard Stilgoe, mae Starlight Express - Live on Stage gan Andrew Lloyd Webber yn brofiad trydanol i bob oed, ar y sgrin fawr am y tro cyntaf erioed.

Prisiau Tocynnau

£16.50

Concession £15.50

*Ticket Price Includes 75p Administration Fee and 25p Theatre Levy*

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Sul
29 Tach 2026

2pm

Dydd Iau
03 Rhag 2026

7pm