

André Rieu: The Dream Continues TBC
Genre: Recorded Live
Mae André Rieu yn dathlu ei ben-blwydd yn 75 oed! Mae Brenin y Waltz yn eich gwahodd i barti ar gwch gydag ef a Cherddorfa Johann Strauss sydd mor annwyl iddo, wrth iddyn nhw hwylio trwy ei ddinas enedigol, Maastricht.
Mae’r ffilm sinema newydd sbon hon yn deyrnged i freuddwyd plentyndod André o ffurfio ei gerddorfa ei hun a theithio’r byd un diwrnod. Mae’r ffilm yn cynnwys detholiad o hoff berfformiadau byd-eang mwyaf trawiadol André ynghyd â rhai o eiliadau gorau’r Maestro a’i Gerddorfa Johann Strauss yn ystod eu hamser gyda’i gilydd dros y degawdau. Nid yw'r rhan fwyaf o'r cyngherddau sy'n cael sylw yn y ffilm hon erioed wedi'u dangos ar y sgrin fawr o'r blaen. I nodi’r garreg filltir anhygoel hon, dyma’ch cyfle i weld clasuron eiconig André am y tro cyntaf. Dewch i ddathlu pen-blwydd André yn 75 oed mewn steil yn eich sinema leol!
- Sylwer mai dim ond bwyd a diod sydd wedi’u prynu gan Theatr Colwyn y dylech eu bwyta a’u hyfed yma
Prisiau Tocynnau
£14
Concession / Pensioner £13
Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau
Dydd Mawrth
15 Ebrill 2025
7pm