Theatr Colwyn

Antiques and a Little Bit of Nonsense

Cyffesion arbenigwr hen bethau! Sêr y teledu’n ymuno ar gyfer sioe lwyfan – a bydd cyfrinachau’n cael eu datgelu! Bydd tri o arbenigwyr hen bethau mwyaf adnabyddus Prydain ar y teledu yn datgelu eu cyfrinachau dyfnaf ar eu taith gyntaf erioed o gwmpas theatrau’r DU.

Ar ôl degawdau o weithio gyda’i gilydd ar rai o gyfresi teledu mwyaf poblogaidd Prydain, mae Charlie Ross, Christina Trevanion a Philip Serrell wedi ymuno â’i gilydd i rannu hanesion di-ri.Mewn sioe lwyfan ddiarbed o’r enw Antiques and a Little Bit of Nonsense, mae’r tri arwerthwr yn bwriadu rhannu cyfrinachau’r byd hen bethau – a’u cyfrinachau eu hunain. Byddant hefyd yn ateb cwestiynau gan y gynulleidfa.

Bydd y pynciau’n cynnwys y pethau od a rhyfeddol y maen nhw wedi eu gwerthu mewn arwerthiant, yr eitem y bydden nhw wrth eu boddau’n ei gwerthu, a’u pleserau cudd. Byddant hefyd yn datgelu sut y datblygodd eu gwaith ar y teledu, a chyda pha enwogion maent wedi mwynhau gweithio fwyaf.

Lansiwyd y sioe lwyfan unigryw hon yng Nghaergaint ar 26 Mawrth 2023, ac ers hynny mae wedi bod mewn sawl theatr o gwmpas y wlad.

Philip Serrell yw’r un a gafodd y syniad am sioe lwyfan –

“Ar ôl i nifer ohono’ ni fynd allan am noson garioci! Peidiwch â phoeni, ’does dim carioci yn y sioe. Fyddwn i ddim yn gwneud i unrhyw un ddioddef fy fersiwn i o gân The Killers, ‘Are we human or are we dancer?’ byth eto.”

“Ond, fe allaf addo llond trol o chwerthin, pytiau y tu ôl i’r llenni, camgymeriadau doniol, cyffesion yn ymwneud â hen bethau, a datgeliadau personol am ein bywydau ni i gyd a allai synnu pobl. Mae’n mynd i fod yn gymaint o hwyl. Gobeithio bydd y bobl sy’n mwynhau ein gwylio ni’n dod yn llu i weld y sioe.”

Dywedodd yr arwerthwr o fri, Charlie Ross: “Bydd y gynulleidfa’n dod i wybod am ein cefndiroedd a sut y bu i ni ddechrau yn y busnes. I mi, fe ddigwyddodd ar ddamwain. Deintydd oeddwn i fod…

Yn bendant, bydd gennym ddigonedd o straeon diddorol a doniol o ystafelloedd arwerthu, ac, wrth gwrs, o’n bywydau o flaen y camerâu. Mae gen’ i lawer o hanesion i’w hadrodd o arwerthiannau rwyf wedi eu cynnal dros y byd, gan gynnwys yn UDA, India, De Affrica a Monaco. A fydda’ i ddim yn ofni datgelu’r camgymeriadau rwyf wedi eu gwneud dros y blynyddoedd!”

Prisiau Tocynnau

£30

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Gwener
24 Ebrill 2026

7.30pm