Bridget Jones: Mad About The Boy 15 (tbc)
Cyfarwyddwr: Michael Morris
Genre: Comedi, Romance
Cast: Renée Zellweger, Hugh Grant, Emma Thompson
Mae Renée Zellweger sydd wedi ennill dau Oscar yn ystod ei gyrfa fel actores yn ail-afael yn ei rôl gyfarwydd yn y comedi rhamantaidd poblogaidd lle mae agwedd merch at fywyd a chariad wedi ail-ddiffinio comedïau rhamantaidd ar ffilm.
Fel merch sengl sy’n mwynhau ei gyrfa ac yn byw yn Llundain mae gallu Bridget i fod yn fuddugol er gwaetha’r trychinebau wedi ei harwain at briodi’r cyfreithiwr Mark Darcy o’r diwedd a chael plant. Hapusrwydd o’r diwedd.
Ond yn Bridget Jones: Mad About The Boy, mae hi ar ei phen ei hun eto. Yn weddw a mam sengl i ddau o blant dydi Bridget ddim yn gwybod sut i gael ei hun allan o’r anfodolaeth emosiynol hwn wrth iddi gael cymorth gan ei ffrindiau triw i fagu ei phlant a hyd yn oed gan ei chyn-gariad, Daniel (Hugh Grant).
A hithau dan bwysau gan ei ‘theulu dinasol’ - Shazzer, Jude a Tom, ei chydweithwraig Miranda, ei mam a’i gynaecolegydd Dr Rawlings (Emma Thompson) - i greu llwybr newydd i’w hun o ran bywyd a chariad mae Bridget yn dychwelyd i’r gwaith ac yn rhoi cynnig ar apiau chwilio am gariad lle mae dyn brwdfrydig a llawer iau yn dangos diddordeb ynddi (Leo Woodall). Yna mae’n gweld ei hun yn ceisio ymdopi gyda gwaith, ei bywyd cartref a charwriaeth ac yn wynebu beirniadaeth gan ‘famau perffaith’ yn yr ysgol ac mae’n poeni am ei mab sy’n ei gweld hi’n anodd ymdopi gyda cholli ei dad a’i absenoldeb yn ei fywyd ac yn cael ambell i sgwrs letchwith gyda’i athro gwyddoniaeth resymol i ryw raddau (Chiwetel Ejiofor).
Prisiau Tocynnau
In Advance £6
£8 On The Day
Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau
Dydd Mawrth
18 Mawrth 2025
7pm
Dydd Mercher
19 Mawrth 2025
2.30pm
Dydd Mercher
19 Mawrth 2025
7pm
Dydd Iau
20 Mawrth 2025
7pm