Theatr Colwyn

Colwyn Bay's BIG Night Out

Amser rhedeg: 110 mins

Mae haf llawn hwyl yn dychwelyd i Theatr Colwyn!

Paratowch ar gyfer haf o chwerthin, hud, cerddoriaeth a hwyl i’r teulu cyfan wrth i’r Sioe Haf boblogaidd ddychwelyd i Theatr Colwyn.

Bydd Han a Fran, a ddaeth yn enwog ar ôl cyrraedd rownd derfynol Britain’s Got Talent, yn dod â’u cymysgedd unigryw o gomedi, cerddoriaeth ac adloniant i’r llwyfan.

Yn ymuno â nhw mae’r gŵr hynod dalentog o Fae Colwyn, Steve Bloor sy’n siŵr o wneud i chi chwerthin lond eich bol.

Paratowch i gael eich syfrdanu gan Libby a Stuart, swynwyr a lledrithwyr rhyngwladol, a phypedau uwch fioled hoffus Magic Light – Timmy y twcan a Zig Zag y ddraig!

Mi fydd yna hefyd berfformiadau anhygoel gan ddawnswyr talentog Ysgol Celfyddydau Perfformio Pearl Shaw ym Mae Colwyn.

Gyda chomedi, lledrith, cerddoriaeth, dawns ac adloniant i’r teulu cyfan, mae’r sioe yn drît perffaith ar gyfer unrhyw oedran.

Peidiwch â cholli’r cyfle i weld Sioe Haf Theatr Colwyn – archebwch eich tocynnau heddiw!

Prisiau Tocynnau

£17

Consesiwn - £15

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Iau
23 Gorff 2026

7.30pm

Dydd Iau
20 Awst 2026

7.30pm