Theatr Colwyn

Creedence Clearwater Review

Genre: Cerddoriaeth

Camwch yn ôl mewn amser ac ail-fyw hud un o fandiau roc mwyaf eiconig America, Creedence Clearwater Revival!

Mae Creedence Clearwater Review yn cyflwyno The Cosmos Factory Tour, dathliad lliwgar o’r albwm Cosmo’s Factory chwedlonol a holl ganeuon poblogaidd Creedence Clearwater Revival. Ymunwch â ni ar gyfer noson o roc a rôl egnïol wrth i ni fynd â chi yn ôl i ddyddiau gwyllt Woodstock a synau trydanol roc Americanaidd ar ddiwedd y 60au a dechrau’r 70au. Nid cyngerdd yn unig yw hon, ond taith drwy gerddoriaeth a ddiffiniodd genhedlaeth! Cyd-gannwch i anthemau poblogaidd fel “Bad Moon Rising”, “Proud Mary”, “Have You Ever Seen the Rain” a “Fortunate Son”. Profwch naws CCR gyda thraciau o Cosmo’s Factory, yn cynnwys “Who’ll Stop the Rain”, “Run Through The Jungle” ac “Up Around the Bend”, ynghyd â’u fersiynau enwog o “I Heard It Through The Grapevine”, “Suzie Q” ac “I Put A Spell On You”.

Gyda lleisiau perffaith a phresenoldeb llwyfan sy’n dal ysbryd perfformiadau byw chwedlonol CCR, mae Creedence Clearwater Review yn darparu profiad roc Americanaidd heb ei ail. Bydd yr offerynnau gwreiddiol a’r gwisgoedd steil y 60au yn ychwanegu at y dilysrwydd, gan eich cludo yn ôl i oes aur CCR. Paratowch i gymryd rhan, cyd-ganu a chlywed hanesion a fydd yn dod â hanes ac effaith ddiwylliannol y band yn fyw o flaen eich llygaid. Pa un ai ydych chi wedi edmygu’r band ers degawdau neu’n clywed eu caneuon am y tro cyntaf, mi fyddwch chi wedi’ch swyno gan y naws hiraethus a’r egni heintus wrth i ni ddathlu etifeddiaeth CCR a John Fogerty.

Wedi hudo cynulleidfaoedd ar draws y DU ac Ewrop, yn cynnwys perfformiad arbennig yn Llundain yn Lolfa VIP yr O2 Arena ar gyfer gwesteion John Fogerty yn 2018, mae Creedence Clearwater Review wedi ennill ei blwyf fel band teyrnged gorau’r DU i CCR. Mae eu perfformiadau pwerus wedi codi toeau lleoliadau a theatrau yn y DU, yr Almaen, Swistir a thu hwnt ers 2012, a’ch tro chi ydi hi rŵan i brofi’r hud! Peidiwch â cholli allan! Archebwch eich tocynnau rŵan ar gyfer The Cosmos Factory Tour a throchwch eich hun yn sain y Creedence Clearwater Revival. Nid sioe deyrnged arferol yw hon; mae’n wrogaeth o’r galon i fand a siapiodd lwybr sain oes gyfan. Chwe degawd yn ddiweddarach, mae naws a phŵer eu caneuon eiconig yn cael eu hatgyfodi gan Creedence Clearwater Review. Gyda’i gilydd, nhw ydi’r dathliad gorau o gerddoriaeth CCR a Fogerty yr ochr yma i’r Iwerydd. Bydd Creedence Clearwater Review yn mynd â chi ar daith hiraethus nad oes arnoch chi angen ei cholli.

Prisiau Tocynnau

£26

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Sadwrn
14 Mawrth 2026

7.30pm