David Attenborough: A Life On Our Planet
Genre: Dogfen
Cast: David Attenborough
Mae un dyn wedi gweld mwy o’r byd naturiol nag unrhyw un arall. Y ffilm ddogfen unigryw hon yw ei ddatganiad tyst.
Mae David Attenborough, yn ystod ei 94 o flynyddoedd, wedi ymweld â phob cyfandir ar y ddaear, yn archwilio ardaloedd gwylltion ein planed ac yn dogfennu byd natur yn ei holl ogoniant ac amrywiaeth.
Rŵan, am y tro cyntaf, mae’n myfyrio ar adegau diffiniol ei fywyd fel naturiaethwr, yn ogystal â’r newidiadau dinistriol y mae wedi eu gweld. #
Mae DAVID ATTENBOROUGH: A LIFE ON OUR PLANET yn ffilm onest, ddatguddiol a thaer, sy’n rhoi cyfrif uniongyrchol o effaith dynoliaeth ar natur a neges o obaith ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Ar ôl y ffilm caiff cynulleidfaoedd gyfle unigryw i wylio sgwrs arbennig iawn rhwng Syr David Attenborough a Syr Michael Palin. Dim ond mewn sinemâu fydd hyn ar gael.
Prisiau Tocynnau
Ymlaen llaw £7
Ar y diwrnod £9
** Mae pris y tocyn yn cynnwys tâl gweinyddol o £1.50 ac ardoll theatr o 50p **
Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau
Dydd Mawrth
30 Meh 2026
2pm 7pm