Theatr Colwyn

Dear Evan Hansen - Rhyl & District Musical Theatre Company

Mae’n bleser mawr gan RADMTC gyflwyno ‘Dear Evan Hansen’

Mae Dear Evan Hansen yn sioe gerdd gyfoes emosiynol a phwerus sy’n archwilio cysylltiad, hunaniaeth, a’r awydd cyffredinol i berthyn.

Mae Evan Hansen yn ddisgybl ysgol uwchradd sy’n orbryderus yn gymdeithasol, ac mae bob amser wedi teimlo’i fod yn anweledig. Pan fo camddealltwriaeth yn troi’n rhywbeth llawer mwy, na fyddai fyth wedi ei ddychmygu, mae Evan yn ei ganfod ei hun yng nghanol stori sy’n dod ag o’n agosach at bopeth mae wedi bod ei eisiau erioed: cyfeillgarwch, derbyniad, a chariad. Ond wrth i’r gwir ddod yn anos i’w guddio, mae’n rhaid i Evan wynebu canlyniadau’r dewisiadau a wnaeth.

Mae sgôr ardderchog i’r sioe gerdd ddirdynnol ac ysbrydoledig hon, sy’n cynnwys y caneuon eiconig ‘Waving Through a Window’ ac ‘You Will Be Found’; ac mae hefyd wedi ennill Gwobr Olivier a Tony.

Mae Dear Evan Hansen yn ein hatgoffa nad ydym ar ein pennau ein hunain, hyd yn oed ar yr adegau tywyllaf.

Prisiau Tocynnau

£22

Plentyn - (5-15 oed) £17

Tocyn Teulu - (2 oedolyn a 2 blentyn) £65

*Mae pris y tocyn yn cynnwys tâl gweinyddol o £1.50 ac ardoll theatr o 50p.*

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Iau
01 Hyd 2026

7.30pm

Dydd Gwener
02 Hyd 2026

7.30pm

Dydd Sadwrn
03 Hyd 2026

7.30pm