Dire Streets
Genre: Cerddoriaeth
Camwch yn ôl i oes aur roc clasurol wrth i Dire Streets ddod â cherddoriaeth un o fandiau gitâr gorau’r byd yn fyw o flaen eich llygaid.
Mae’r sioe theatr ddwyawr hon yn llwyddo i gyfleu hud Dire Straits gyda fersiynau triw o’u traciau stiwdio eiconig a pherfformiadau estynedig cyffrous wedi’u hysbrydoli gan eu cyngherddau byw chwedlonol. O fiwsig gitâr cwbl unigryw Sultans of Swing i seinwedd anhygoel Telegraph Road, mae pob nodyn yn cael ei daro gyda pherffeithrwydd ac angerdd sydd mor gyfarwydd i’r dilynwyr.
Ers degawd a mwy, mae Dire Streets wedi bod yn syfrdanu cynulleidfaoedd gan ennill enw da fel band teyrnged gorau Dire Straits yn y DU. Gyda cherddorion sy’n ymroi’n llwyr i ail-greu arddull a seiniau lleisiol unigryw Mark Knopfle, mae’r band chwe aelod yma’n rhoi perfformiadau sydd mor debyg i’r gwreiddiol ag y gallwch chi eu gweld yn fyw heddiw.
Gallwch ddisgwyl dawn gerddorol syfrdanol, sylw anhygoel i fanylion a noson fythgofiadwy yn dathlu un o fandiau mwyaf gwreiddiol a dylanwadol Prydain.
Prisiau Tocynnau
£27
** Ticket price includes a £1.50 administration fee and 50p theatre levy **
Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau
Dydd Sadwrn
12 Meh 2027
7.30pm