Cymraeg

Dom Jolly - Trigger Happy TV, the 25th Anniversary Tour

Tocynnau Premiwm a Chwrdd a Chyfarch ar gael – Nifer Cyfyngedig

Mae chwarter canrif wedi mynd heibio ers i Trigger Happy TV ffrwydro ar ein sgrin, gan drawsnewid y fformat camera cudd gyda bydysawd swreal o gymeriadau a chwarae castiau. Rŵan, i ddathlu chwarter canrif o anhrefn, mae Dom Joly yn dod â’i gymeriadau a’i sgetshis mwyaf eiconig i’r llwyfan yn Trigger Happy TV – Live! i ddathlu 25 o flynyddoedd. 

Bydd y gynulleidfa wrth eu bodd yn gweld eu hoff gymeriadau o’r sioe boblogaidd, yn cynnwys y falwoden enfawr, y warden traffig, y dawnsiwr Morris, y sgowt, y criw o wiwerod a, heb anghofio, y ffôn symudol mawr! Bydd Dom yn rhannu straeon cefn llwyfan ac yn egluro sut daeth yr eiliadau bythgofiadwy hyn yn fyw. Ond mae mwy – mae hon yn theatr fyw felly byddwch yn barod am yr annisgwyl!

Prisiau Tocynnau

Tocyn Safonol £31

Tocyn Premiwm y seddi gorau a bag nwyddau Trigger Happy – nifer cyfyngedig ar gael - £47

Cwrdd a Chyfarch cyfle i gwrdd a chyfarch cyn y sioe, a chael tynnu llun a llofnod, yn ogystal â seddi yn y rhesi blaen a bag nwyddau Trigger Happy – nifer cyfyngedig ar gael - £77

*Ticket Price Includes £1.50 Administration Fee and 50p Theatre Levy*

Dyddiadau ac Amseroedd y Ffilmiau

Dydd Sadwrn
06 Tach 2027

7.30pm